
Gitân is performing on Saturday, 9th March in Pwerdy-Powerhouse Community and Arts Centre, Llandysul at 7.30pm. Come and join the two friends on their musical journey
The music of Gitân is a walk with two friends between two worlds, each holding the musical thread of their native or adopted homelands and bringing them together to create a beautiful sonic story tapestry. The two friends are singers, musicians and composers Rajesh David and Stacey Blythe. Rajesh was born in Mumbai. He came to Wales, learned the language and has made his home in Lampeter, West Wales. Stacey was born in Birmingham and came to study music in Cardiff. She learned Welsh and raised her family speaking Welsh. She has made Cardiff her home.
Gitân make new material with poetic threads of Hindi, Welsh, Urdu and Sanskrit…with sung threads of classical Indian vocal styles and folk songs from Wales… and with instruments that do not normally dance together – Indian harmonium and Celtic lever harp. Epic classical poetry in Hindi, Urdu and Sanskrit sits next to, and falls into personal, tender, domestic folk songs from Wales. The colours blur, the differences melt away, and we begin to sing and share the songs and music from these diverse cultures with one sonic voice.
Bydd Gitân yn perfformio nos Sadwrn, 9fed Mawrth yng Nghanolfan Gymunedol a Chelfyddydau Pwerdy-Powerhouse, Llandysul am 7.30pm. Dewch i ymuno â’r ddau ffrind ar eu taith gerddorol
Cerddoriaeth Gitân yw taith gerdded gyda dau ffrind rhwng dau fyd, pob un yn dal llinyn cerddorol eu mamwledydd brodorol neu fabwysiedig ac yn dod â nhw at ei gilydd i greu tapestri stori sonig hardd. Y ddau ffrind yw cantorion, cerddorion a chyfansoddwyr Rajesh David a Stacey Blythe. Ganed Rajesh ym Mumbai. Daeth i Gymru a dysgu’r iaith ac mae wedi ymgartrefu yn Llanbedr Pont Steffan, Gorllewin Cymru. Ganed Stacey yn Birmingham a daeth i astudio cerddoriaeth yng Nghaerdydd. Dysgodd Gymraeg a magu ei theulu yn siarad Cymraeg. Mae hi wedi dewis Caerdydd yn gartref iddi.
Mae Gitân yn creu deunydd newydd gydag edafedd barddonol o Hindi, Cymraeg, Wrdw a Sansgrit … gydag edafedd canu o arddulliau lleisiol clasurol Indiaidd a chaneuon gwerin o Gymru… a chydag offerynnau nad ydynt fel arfer yn cyd-ddawnsio – harmoniwm Indiaidd a thelyn lifer Geltaidd. Mae barddoniaeth glasurol epig yn Hindi, Wrdw a Sansgrit yn eistedd wrth ymyl, ac yn disgyn i mewn i ganeuon gwerin domestig, personol, tyner o Gymru. Mae’r lliwiau’n niwlio, mae’r gwahaniaethau’n ymdoddi, a dechreuwn ganu a rhannu’r caneuon a’r gerddoriaeth o’r diwylliannau amrywiol hyn ag un llais sonig.




0 Comments